Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5
Dyddiad: Dydd Mercher, 24 Mai 2023
Amser:
09.15 -
11.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13338
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Jayne Bryant AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth Jason Thomas, Llywodraeth Cymru Neil Welch, Llywodraeth Cymru Mary Ellis, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Angharad Era (Dirprwy Glerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mabon ap Gwynfor AS.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Darparu cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin - Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor
2.1a Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
2.2 Diogelwch Adeiladau - Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd
2.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
2.3 Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr - Llythyr gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
2.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
2.4 Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ardrethru Annomestig - Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
2.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 4, 6 a 7 y cyfarfod
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4 Gwasanaethau Llyfrgelloedd a Hamdden Awdurdodau Lleol - trafod y materion allweddol
4.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol.
5 Gwasanaethau Llyfrgelloedd a Hamdden Awdurdodau Lleol - Tystiolaeth gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth
5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y canlynol:
Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth
Jason Thomas, Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Llywodraeth Cymru
Neil Welch, Pennaeth Chwaraeon, Llywodraeth Cymru
Mary Ellis, Pennaeth Llyfrgelloedd, Archifau a Gwydnwch, Llywodraeth Cymru
5.2 Cytunodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth i ddarparu adroddiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru ynghylch gwerth cymdeithasol pêl-droed yng Nghymru
5.3 Cytunodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth i ddarparu enghreifftiau i Lywodraeth Cymru o lle mae Llywodraeth Cymru wedi cyd-leoli gwasanaethau.
5.4 Cytunodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth i ddarparu unrhyw werthusiad a/neu dystiolaeth i’r Pwyllgor ynghylch mesurau effeithlonrwydd modelau gwahanol o ddarparu gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd.
6 Gwasanaethau Llyfrgelloedd a Hamdden Awdurdodau Lleol - trafod y materion allweddol
6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig
7.1. Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig.